Beth yw ein hamcanion?
Mae’r elusen yn cefnogi prosiectau a sefydliadau sy’n atal troseddu ac yn gwella ansawdd bywyd, yn cyfeirio pobl ifanc oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn mynd i'r afael â chamddefnydd sylweddau.
Pwy sy’n ariannu’r Ymddiriedolaeth?
Caiff arian ar gyfer y gronfa ei godi gan y rheini sy’n ymwneud â materion diogelwch yn y gymuned leol, megis cyrff swyddogol, ymddiriedolaethau eraill, cyfranwyr preifat a’r sector busnes.
Pwy sy’n gyfrifol am yr Ymddiriedolaeth?
Pobl leol yw’r holl Ymddiriedolwyr sy’n sicrhau bod arian yr Ymddiriedolaeth yn cael ei ddefnyddio’n deg ac yn adeiladol i roi’r budd gorau posibl i’r rheini sy’n gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth drwy weithio’n agos gyda’r Heddlu, cyfranwyr preifat â’r gymuned.